Mae’r radd Geneteg a Biocemeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn archwilio’r rhyngwyneb rhwng Geneteg – a’i photensial diderfyn, bron, i’n cynorthwyo i ddeall iechyd ac afiechyd dynol, esblygiad, ac amrywiaeth pethau byw – a Biocemeg, sy’n rhoi dealltwriaeth fecanistig o sut mae genynnau yn rheoli bioleg organeb.
Nodweddion y radd hon yw’r integreiddio agos rhwng geneteg a biocemeg er mwyn deall geneteg foleciwlaidd iechyd ac afiechyd, a blaenoriaethu’r sgiliau ymarferol y ceir galw amdanynt ym maes ymchwil ac mewn diwydiant.
Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn datblygu sylfaen gadarn o ddealltwriaeth mewn geneteg a biocemeg, gan gwmpasu agweddau megis geneteg ddynol, mynegiant genynnau, bioleg ddatblygiadol a bioleg canser, biotechnoleg, peirianneg genetig a ffarmacoleg. Byddwch hefyd yn cael hyfforddiant mewn protocolau gwyddonol a’r fethodoleg arbrofol gywir ar gyfer cofnodi, dehongli ac adrodd ar amrywiaeth o ddata.
Ar ddiwedd eich astudiaethau, byddwch wedi datblygu’r sgiliau angenrheidiol i weithio mewn amrywiaeth o amgylcheddau labordy proffesiynol.
Pam astudio Geneteg a Biocemeg ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Byddwch yn astudio bioleg canser, geneteg cromosomau, mynegiant a datblygiad genynnau, geneteg esblygiad a phoblogaeth, a biotechnoleg.
- Byddwch yn dysgu gymhwyso technegau moleciwlaidd gan gynnwys echdynnu, dilyniannu a dadansoddi DNA; defnyddio electrofforesis gel ar gyfer gwahanu a dadansoddi swyddogaethol ar broteinau; astudio nodweddu bioffisegol ar gyfer cineteg a thermodynameg adweithiau wedi’u cataleiddio gan ensymau.
- Mae gan fyfyrwyr yn ein hadran fynediad at labordai ymchwil ac addysgu sydd ag offer modern, gan gynnwys cyfleusterau bioddelweddu, dilyniannu DNA trwygyrch uchel, llwyfannau proteomeg, metabolomeg, ffenomeg a spectrosgopeg. Mae'r cyfleusterau hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu'r sgiliau allweddol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
- Byddwch yn astudio prosiect ymchwil labordy gwarantedig yn y flwyddyn olaf.
- Byddwch hefyd yn cael hyfforddiant mewn protocolau gwyddonol a’r gweithdrefnau gwyddonol cywir ar gyfer cofnodi, dehongli ac adrodd ar ddata.
- Rydym yn rhoi llawer o bwyslais ar sgiliau ymarferol er mwyn i'n graddedigion ddod yn ymarferwyr o'r dechrau un. Rydym yn sicrhau bod gan ein graddedigion y sgiliau i gyfathrebu eu gwyddoniaeth yn effeithiol, fel bod modd iddynt ymuno â thrafodaethau am eneteg sy'n aml yn ddadleuol.
Os oes gennych ddiddordeb yn y cwrs hwn, yna mae'n bosib y bydd gennych ddiddordeb yn ein cwrs BSc Biocemeg (C700) neu ein cwrs MBiol Biocemeg (C709). Rydym hefyd yn cynnig yr opsiwn i fyfyrwyr astudio Geneteg a Biocemeg gyda blwyddyn mewn diwydiant (CC48).
Ein Staff
Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.
Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Gymdeithas Fiocemegol a'r Gymdeithas Eneteg, sy'n llwyfannau gwych i fyfyrwyr rwydweithio gydag eraill yn eu disgyblaeth.
Mae ein myfyrwyr yn gadael Prifysgol Aberystwyth gyda'r sgiliau canlynol:
- sgiliau ymchwil a dadansoddi data;
- sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch;
- sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol;
- sylfaen drylwyr mewn sgiliau technoleg gwybodaeth;
- y gallu i weithio'n annibynnol;
- sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser;
- y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar;
- hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain;
- y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.
Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio?
Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.
Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.
Beth fydda i'n ei astudio?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio:
- Amrywiaeth y disgyblaethau biolegol sy'n cynnwys:
- Strwythur a swyddogaeth planhigion, anifeiliaid a microbau ar lefel moleciwlau, organebau a chelloedd;
- Sylfaen gadarn mewn cemeg fiolegol a moleciwlau bywyd;
- Yr egwyddorion sy'n sail i etifeddiaeth a geneteg fodern;
- Llif metabolig egni a mater drwy systemau byw.
Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn darganfod:
- Bioleg celloedd a bioleg ddatblygiadol;
- Imiwnoleg a bioleg canser;
- Bioleg foleciwlaidd a'i chymwysiadau;
- Modiwlau ymarferol sy'n datblygu eich sgiliau ymchwil.
Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch yn astudio:
- Genomeg swyddogaethol a thechnolegau 'omeg' eraill;
- Mynegiad genynnau a geneteg ddatblygiadol;
- Ffarmacoleg a thocsicoleg;
- Ac yn cyflawni prosiect ymchwil mawr.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy ddarlithoedd, gweithdai, tiwtorialau ac ymarferion. Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf:
- Traethodau
- Gwaith ymarferol
- Taflenni gwaith
- Adolygiadau llenyddiaeth
- Erthyglau cylchgrawn
- Adroddiadau
- Ymarferion ystadegol
- Posteri
- Cyflwyniadau
- Profion ar-lein
- Dyddiaduron myfyriol
- Arholiadau
Mae geneteg ar flaen y gad o ran y gwyddorau biolegol. Yn yr oes ôl-genomig, rydyn ni'n gallu archwilio ein rhaglennu biolegol ar lefel foleciwlaidd. Yr hyn rwy'n ei fwynhau'n fawr am y cwrs yw bod gennych y gallu i'w deilwra i'ch meysydd diddordeb penodol, gan ddewis eich cyfuniadau eich hun o fodiwlau sy'n adlewyrchu'r meysydd yr ydych am eu harchwilio fwyaf, tra'n ennill gwybodaeth werthfawr a phrofiad ymarferol i'ch helpu i lunio llwybr eich gyrfa. Richard Cleverley
Mae Biocemeg yn gwrs diddorol a chystadleuol iawn sy'n fy helpu i ddatblygu fy ngwybodaeth a'm dealltwriaeth o feysydd meddygol a gwyddonol. Drwy gydol y cwrs Biocemeg rydw i wedi bod yn datblygu fy sgiliau ymarferol oherwydd fy mod i wedi treulio llawer o amser yn y labordai, yn cymryd rhan mewn llawer o arbrofion yn ystod y flwyddyn academaidd. Madalina Dragomir
Rhoddodd fy ngradd mewn Geneteg a Biocemeg sylfaen dda i mi a lwyddodd i fy mharatoi'n dda iawn ar gyfer astudio PhD. Mewn gwirionedd, ysbrydolodd un o'r cyrsiau, Mynegiant Genynnau a Geneteg Ddatblygiadol, fi i weithio ym maes Bioleg Ddatblygiadol, sef y maes rwy'n gweithio ynddo heddiw. Byddaf yn fythol ddiolchgar am y cyfle a roddwyd i fi a safon yr addysgu a dderbyniais.
Roger – Athro mewn Niwrowyddoniaeth, Prifysgol Copenhagen
Tariff UCAS 120 - 104
Safon Uwch BBB-BCC with B in Chemistry
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Chemistry at Higher Level
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Chemistry
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
Yn ôl i'r brig